Mae ein cefnogaeth yno i unrhyw un sydd wedi profi marwolaeth babi, waeth pa mor bell yn ôl. Mae pobl y bu farw eu babi cymaint â thri deg neu ddeugain mlynedd yn ôl yn cysylltu â ni yn ogystal â'r rhai y bu farw eu babi yn fwy diweddar ond sy'n dal i alaru. Weithiau bydd aelod arall o’r teulu’n cysylltu â ni – brawd neu chwaer sy’n oedolyn sy’n galaru am golli brawd neu chwaer.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, gadewch i ni eich sicrhau ein bod ni yma i ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth. Mae gennym ni lyfrynnau ac amrywiaeth o dystysgrifau y gellir eu haddasu i gynnwys manylion babi nad yw ei enedigaeth efallai wedi'i gofnodi yn unman arall, i'ch helpu i goffáu ei fywyd.
"Er bod gen i 3 o blant hyfryd sydd wedi tyfu i fyny, does dim diwrnod wedi mynd heibio heb i mi feddwl beth ddigwyddodd i fy mabi cyntaf, a oedd yn farw-anedig, ac a gymerwyd i ffwrdd yn gyflym."
Mam mewn profedigaeth
Gellir lawrlwytho ein llyfryn cymorth Cefnogaeth a Gwybodaeth ar gyfer Profedigaeth Ers Talwm yma neu gellir archebu copïau printiedig o'n siop. Wedi’i ysgrifennu gyda chymorth rhieni mewn profedigaeth, mae’n rhoi syniadau ar sut i goffáu babi a fu farw ers talwm, yn archwilio agweddau newidiol at golli babi ac yn cynghori sut y gall yr elusen helpu.
Os nad ydych chi’n gwybod beth ddigwyddodd i’ch babi, efallai yr hoffech chi olrhain cofnod bedd neu amlosgiad eich babi. Mae gennym ni daflen fyrrach arall, Olrhain Bedd Baban neu Gofnod o Amlosgiad i'ch arwain yn y broses. Bydd ein tîm Cymorth Profedigaeth ar gael drwy ein Llinell Gymorth i chi drafod sut y gallai hyn deimlo.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi hefyd ddarllen Finding Zoe. Mae'r llyfr hwn yn dwyn ynghyd straeon rhieni a oedd am olrhain bedd eu babi a thystebau'r rhai sydd wedi llwyddo i wneud hynny.
Rydyn ni'n deall y gallai fod yn anodd gwybod ble i ddechrau, felly rydyn ni bob amser yma i'ch helpu chi ar hyd y ffordd. Gallwch gysylltu â'n Llinell Gymorth ar 0808 164 3332 neu drwy e-bost ar helpline@sands.org.uk. Mae ein staff ymroddedig yma i wrando a chynnig lle diogel a chyfrinachol i chi siarad.
Llyfrynnau i'w lawrlwytho wedi'u diweddaru ddiwethaf: 18 Mai 2022.
Sylwer: Rydym wedi diwygio gwall ar dudalen 12 fersiwn flaenorol o'r llyfryn Gwybodaeth a chymorth ar gyfer pobl sydd wedi cael profedigaeth ers talwm. Roedd y frawddeg flaenorol yn darllen, "Hyd at 1992, y diffiniad cyfreithiol o farw-enedigaeth oedd babi a anwyd yn farw cyn 28 wythnos gyflawn o feichiogrwydd." Mae hyn bellach wedi'i gywiro.