Mae'n ddrwg iawn gennym fod eich babi wedi marw neu y dywedwyd wrthych am ddisgwyl y bydd yn marw yn fuan. Ychydig iawn o brofiadau sy'n gallu cymharu â'r trawma a'r boen o golli babi. Mae Sands ar gael i roi cymorth am gyhyd ag y bydd ei angen arnoch ac i'ch arwain drwy'r cyfnod anodd hwn, rydym wedi llunio Llyfr Cymorth Profedigaeth Sands.
Efallai eich bod wedi darganfod bod eich babi eisoes wedi marw a gallech fod yn aros i roi genedigaeth iddo neu efallai bod eich babi wedi marw neu y disgwylir iddo farw yn fuan mewn gofal newydd-enedigol. Gallech hefyd fod wedi dewis terfynu beichiogrwydd am resymau meddygol neu fod yn disgwyl gwneud hynny’n fuan. Beth bynnag fo’r amgylchiadau, rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod hynod o drist a gofidus. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth sydd yn y llyfr hwn yn ddefnyddiol i chi nawr ac yn y dyfodol.
Does dim angen i chi ddarllen y llyfr hwn mewn trefn. Mae cod lliw ar gyfer pob adran fel y gallwch chi ddod o hyd i'r adrannau sydd fwyaf perthnasol i chi yn hawdd, gallwch agor PDF o bob pennod trwy glicio ar y delweddau isod. Os hoffech chi rannu adran benodol gyda pherthynas, ffrind neu gyflogwr, gallwch lawrlwytho ffeiliau PDF unigol. Gallwch hefyd archebu un o'n siop.
Oherwydd haelioni ein cefnogwyr a’r rhai sy’n codi arian yn ddiflino i Sands, gallwn gynnig y cyhoeddiad hwn yn rhad ac am ddim i rieni mewn profedigaeth ac i unrhyw un y mae marwolaeth babi wedi effeithio arnynt.
Rydyn ni nawr yn cynnig cyfieithiadau o’n Llyfr Cymorth Profedigaeth yn Arabeg, Bengaleg, Pwyleg, Portiwgaleg, Pwnjabeg, Wrdw, Wcreineg, Tsieinëeg Syml a Chymraeg.