Mae Llinell Gymorth Genedlaethol Sands yn darparu lle diogel a chyfrinachol i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth babi. P’un a fu farw eich babi ers talwm neu’n ddiweddar, rydym yma i chi.

Helpline-5

Mae’r llinell gymorth yn rhad ac am ddim i’w ffonio o linellau tir a ffonau symudol ar 0808 164 3332.

Gallwch hefyd anfon e-bost at y tîm yn helpline@sands.org.uk 

 

Amseroedd Agor a Chyfrinachedd 

Mae’r tîm ar gael i siarad â nhw ar y ffôn rhwng 10yb a 3yp o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 6yh a 9yh ar nosweithiau Mawrth, Mercher a Iau. Sylwch nad ydym ar agor yn ystod gwyliau banc oni bai y nodir ar y wefan.

Rydym yn cynnig cefnogaeth dros y ffôn am hyd at awr. Gall hyn fod ar gyfer galwad untro neu nifer o alwadau dros amser.

Rydym yn anelu at ymateb i bob e-bost o fewn 48 awr, ac eithrio dros y penwythnos pan fydd y llinell gymorth ar gau. Mae'r tîm hefyd yn ymateb i e-byst o'r tu allan i'r DU.

Mae galwadau a negeseuon e-bost yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth y tu allan i Sands, ac eithrio os oes perygl uniongyrchol o niwed i chi neu rywun arall.

Helpline-5

Pwy ydyn ni'n eu cefnogi ar y llinell gymorth?

  • Rhieni mewn profedigaeth
  • Teidiau a neiniau mewn profedigaeth
  • Aelodau eraill o'r teulu
  • Ffrindiau a chydweithwyr
  • Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • Gweithwyr proffesiynol eraill sy'n cefnogi teuluoedd mewn profedigaeth

Pwy fydd yn ymateb i'ch galwad neu'ch e-bost?

Mae gennym dîm bychan o staff llinell gymorth ymroddedig a phrofiadol i gynnig cefnogaeth gyfrinachol, anfeirniadol a thosturiol. Rydyn ni’n deall ei bod hi’n gallu bod yn anodd siarad am deimladau a galar weithiau ond rydyn ni’n gobeithio rhoi lle ac amser i chi ddod o hyd i’ch geiriau.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â'r llinell gymorth

Mae Llinell Gymorth Genedlaethol Sands yn cynnig cymorth ledled y DU (Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon) ac yn cynnig cymorth yn y ffyrdd canlynol:

  • Cefnogaeth profedigaeth (ymdopi â galar, dicter, anobaith, euogrwydd, gorbryder, wynebu'r dyfodol)
  • Gwybodaeth ymarferol yn ymwneud â phenderfyniadau sydd eu hangen ar ôl marwolaeth babi
  • Gwybodaeth am gefnogaeth grŵp Sands lleol sydd ar gael a'n Cymuned Ar-lein
  • Ymdopi â beichiogrwydd arall ar ôl marwolaeth babi
  • Cyngor ar gefnogi rhiant mewn profedigaeth
  • Cyfeirio at sefydliadau eraill lle bo'n briodol

 

Byddem yn croesawu eich adborth ar Linell Gymorth Sands a byddem yn ddiolchgar petaech yn gallu cwblhau'r arolwg byr hwn

Mae Llinell Gymorth Sands yn aelod o Bartneriaethau Llinellau Cymorth ac mae wedi’i hachredu ers 2018.

Helplines Partnerships member logo=

 

Exit Site