Archwiliad meddygol yw post mortem (a elwir hefyd yn awtopsi) i helpu i ddeall unrhyw ffactorau a allai fod wedi cyfrannu at farwolaeth eich babi. Fel arfer, dylai uwch weithiwr gofal iechyd proffesiynol siarad â chi yn fuan ar ôl marwolaeth eich babi, am yr opsiynau priodol o gael archwiliad post mortem, a pha fathau o archwiliadau post mortem sy'n debygol o gynhyrchu'r wybodaeth fwyaf. 

Oni bai ei fod wedi cael ei orchymyn gan grwner (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) neu brocuradur ffisgal (yr Alban), ni ellir cynnal archwiliad post mortem heb eich caniatâd. Mae post mortem ar fabanod yn cael ei wneud gan feddygon arbenigol, a elwir yn batholegwyr pediatrig neu amenedigol. Mae mwy o wybodaeth yn ein llyfryn yn y bennod: Deall pam y bu farw eich babi. Cliciwch ar y llun isod. 

Sands-Understanding-why-your-baby-died

Exit Site